Refferendwm ar yr UE

Pam y Byddaf yn Pleidleisio o blaid Aros yn yr Undeb Ewropeaidd

Rydw i wedi treulio’r saith mlynedd diwethaf ers cael fy ethol i Senedd Ewrop yn cynrychioli Cymru yn yr UE a bod yn llais cryf dros y DU ym Mrwsel. Rydw i wedi treulio’r ychydig o flynyddoedd diwethaf yn helpu i effeithio ar yr agenda ddiwygio ac i sicrhau deddfwriaeth well, gan gynnwys ymgyrchu – yn aml yn llwyddiannus – er mwyn lleihau biwrocratiaeth ac i ymladd ar ran buddiannau Prydain a Chymru ar lefel yr UE.

Rwyf felly’n teimlo ei bod hi’n briodol i mi ddweud wrth fy etholwyr sut byddaf i’n pleidleisio yn y refferendwm sydd ar ddod ar yr UE ym mis Mehefin. Rydw i wedi dod i’r casgliad hwn trwy ystyriaeth sylweddol sy’n seiliedig ar fy mhrofiad personol.

Mae llawer ohonoch chi eisoes wedi ysgrifennu ataf i ofyn am wybodaeth sylfaenol ar yr UE a sut mae’n gweithio, felly yr wyf wedi cynnwys dolen ar waelod yr erthygl hon at daflen ffeithiol yr wyf wedi’i hysgrifennu a gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i chi wrth benderfynu sut y byddwch chi’n pleidleisio ar 23 Mehefin.

Ers dod yn ASE, rwyf wedi dweud na allai’r sefyllfa bresennol barhau. Mae’n rhaid i Ewrop newid ac mae’n rhaid i’n perthynas â hi newid.

O ran mewnfudo, cafwyd nifer o gyrhaeddiadau. Bydd atal lwfansau chwilio am swydd a rhoi cyfyngiadau ar fudd-daliadau ar gyfer newydd-ddyfodiaid yn lleihau rhai o’r pwysau rydym wedi’u gweld. Mae bod y tu allan i gytuniad Schengen yr UE yn golygu fod gennym reolaeth go iawn dros ein ffiniau ac y gallwn ni weithredu yn erbyn y rheini sy’n beryglus i’n cymunedau. Rwyf wedi ymgyrchu am amser hir o blaid rhannu cofnodion troseddwyr trawsffiniol ac yr ydwyf yn falch fod canlyniadau’r trafodaethau yn adlewyrchu newid yn agweddau llawer o’r gwledydd Ewropeaidd eraill o ran helpu ein gilydd i ymladd yn erbyn trosedd a therfysgaeth.

Fel y bydd llawer ohonoch chi’n gwybod, rwyf wedi bod yn eiriolwr cryf ar gyfer y rhybudd achub plentyn er mwyn dod o hyd i blant pan fyddant yn mynd ar goll. Yr unig ffordd y bydd y cynllun hwn yn llwyddiannus yw trwy ei gydlynu ar lefel yr UE pan fydd plentyn yn mynd ar goll ar draws ffiniau gwahanol. Gallwch ddarllen mwy am yr ymgyrch hwn trwy ymweld ag http://www.kayswinburne.cymru/campaigns/amber-alert-ymunwch-%C3%A2%E2%80...

Yn ystod fy amser yn ASE, rwyf hefyd wedi ymladd yn erbyn tap coch a chyfreithiau di-angen. Mae’r farchnad sengl yn ein helpu ni i fasnach gyda’r 500 miliwn o ddefnyddwyr yn Ewrop; dyma hwb i gystadleurwydd, mae’n helpu twf ac mae’n creu swyddi. Yn y drafodaeth hon, rydym wedi sefydlu adolygiad blynyddol o gyfreithiau’r UE ac wedi cytuno i sefydlu targedau sector wrth sector er mwyn cael gwared ar gostau diangen, ac i adfer gwneud penderfyniadau i’r seneddau cenedlaethol pan nad oes angen rheolau rhygwladol yr UE. Wrth gwrs, bydd hyn yn cymryd amser, ond mae’n ddechrau addawol.

Mewn dim ond saith mlynedd, mae’r Parth Ewro wedi datblygu o fod yn Undeb Ariannol at fod yn Undeb Cyllido a bellach yn Undeb Bancio. Dyma newid sylfaenol enfawr i lywodraethiant economïau’r gwledydd sydd yn yr ewro. Rwyf yn falch fod aildrafod y Prif Weinidog yn cadw’r DU y tu allan i’r ewro, mae’n diogelu ein hannibyniaeth economaidd, mae’n amddiffyn annibyniaeth Banc Lloegr ac mae’n amddiffyn y bunt. Mae’n mynd â ni y tu allan i’r “undeb agosach fyth” ac yn bwysig, mae’n atal y rhieni sydd yn yr ewro rhag ffurfio cartel a rhag gwahaniaethu yn erbyn y rheini sydd y tu allan i’r ewro. Dyma bwynt hanfodol yn yr aildrafod i fi ac mae hynny wedi’i gyflawni.

Wrth gwrs, hoffwn i weld mwy, nid dyma’r diwedd ar y diwygio.

Mae cyflawni’r aildrafod hyn wedi bod yn gyrhaeddiad enfawr. Os byddwn yn cerdded ymaith o’r byrddau trafod nawr ac yn pleidleisio o blaid “Gadael”, bydd yn rhaid i ni sicrhau bargen fasnach newydd gyda’n cymdogion agosaf ac ailagor trafodaethau’n ddwyochrog gyda phob un wlad sydd â chytuniadau masnach gyda’r UE. Er mwyn sicrhau dêl, byddai angen cytundeb unfrydol gan benaethiaid bob un o’r 28 aelod-wladwriaeth, yn ogystal â Senedd Ewrop. Fyddwn ni ddim yn aildrafod gydag economegwyr fydd yn rhoi buddiannau masnachu gyda’r DU uwchben eu brwydrau gwleidyddol yn eu gwledydd eu hunain; ond yn hytrach gydag arweinwyr cenedlaethol fydd yn wynebu’r risg y bydd yr awydd yn lledaenu. Er mwyn eu rhesymau gwleidyddol cenedlaethol eu hunain, ni fyddant yn gallu fforddio gwahanu cyfeillgar rhag y DU.

Oherwydd y rhesymau hyn, rwy’n gwybod y bydd yn rhaid i unrhyw ddêl y byddwn yn llwyddo i’w chyrraedd gyda’r UE fod yn llai buddiol i’r DU na’r ddêl sydd gynnon ni eisoes, fel arall, byddai bob un aelod o’r UE yn dewis gadael. Byddai sefyllfa o’r fath yn achosi aflonyddwch economaidd byd-eang.

Er fod biwrocratiaeth sefydliadau’r UE yn peri rhwystredigaeth i fi, mae pob un o’m greddfau yn dweud wrthyf y byddai gadael yn ddewis annoeth i’r DU ac y byddai’n arwain at gyfnod hir o anwadalrwydd ac ansefydlogrwydd i ni ac i’n cymdogion.

Ar draws economïau’r byd, mae diogelwch ac adnoddau naturiol o dan bwysau. Does gyda ni ddim imiwnedd rhag hyn; mae ein hadfywiad yng Nghymru ac yn y DU yn dal i fod yn fregus. Bydd yn rhaid i bawb feddwl yn galed iawn am eu penderfyniad, eu dyfodol, dyfodol eu plant a’u hwyrion, ac am yr hyn y bydd eu pleidlais yn ei golygu i ddyfodol ein gwlad. Fel yr wyf wedi ceisio ei fynegi, dydy hi ddim yn teimlo mai’r dyma adeg iawn i gerdded ymaith o’n cyfeillion neu i gymryd risgiau anfesuradwy. Dydy’r UE ddim yn berffaith, a dydy dêl David Cameron ddim yn fwled arian, ond i fi, mae’n gam i’r cyfeiriad iawn ac yn well na naid i’r tywyllwch.

Dyma pam y byddaf yn pleidleisio o blaid aros yn yr UE ac i barhau i ymladd dros ddiwygio o’r tu mewn.

Yr eiddoch yn gywir

Kay

Dr Kay Swinburne
ASE dros Gymru